Ann Clwyd
Wrth gyflwyno adroddiad sy’n ymchwilio i Wasanaeth Iechyd Lloegr ac yn galw am newid mawr yn y system gwyno, mae Ann Clwyd wedi cefnogi’r galw am ymchwiliad tebyg i Wasanaeth Iechyd Cymru.
Fe gafodd yr Aelod Seneddol Llafur dros Gwm Cynon ei phenodi i gynnal arolwg o’r Gwasanaeth Iechyd ar ôl iddi feirniadu’r driniaeth a gafodd ei diweddar ŵr, Owen Roberts, yn yr ysbyty.
Mae’n dweud y byddai ei gŵr yn fyw heddiw oni bai am safon gwael y gofal.
Mae Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru hefyd wedi galw ar y blaid Lafur yng Nghymru i “dynnu ei phen allan o’r tywod” a rhoi’r gorau i “honni fod popeth yn iawn.”
Yn ôl adroddiad Ann Clwyd, mae angen i Wasanaeth Iechyd Lloegr roi mwy o bŵer yn nwylo’r defnyddwyr a gwneud newidiadau i’r system gwyno drwy sicrhau fod y prif sefydliadau sy’n ymwneud ag iechyd yn barod i dderbyn newid.
Problemau
Yn ôl Kirsty Williams, “ni fydd pethau’n gwella nes bod Llafur yn derbyn pa mor ddifrifol yw problemau’r gwasanaeth.”
“Mae Ann Clwyd wedi dweud fod Cymru ar ei hôl hi ‘ym mhob agwedd’. Os yw un o AS Llafur yn dweud hyn, siawns y dylai’r blaid Lafur ddechrau gwrando” meddai Kirsty Williams.
Ym mis Gorffennaf eleni, fe wnaeth Andrew RT Davies, Arweinydd yr Wrthblaid a Darren Millar, y Gweinidog Iechyd Cysgodol, alw am i ymchwiliad annibynnol i safon y gofal i gleifion y GIG ond cafodd y cynnig ei wrthod gan Carwyn Jones.
Maen nhw’n falch bod Ann Clwyd yn cefnogi eu safbwynt:
“Mae toriadau’r blaid Lafur i Wasanaeth Iechyd Cymru wedi gwneud i reolwyr roi mwy o sylw i gyllid nag i reoli heintiau ac i roi pwysau ar weithwyr y gwasanaeth sydd wedi arwain at gynnydd mewn amseroedd aros,” meddai Darren Millar.
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.