Yn ymateb i sylwadau Andrew RT Davies heddiw fod angen cwtogi ar y deng wythnos mae Aelodau’r Cynulliad yn eu dreulio i ffwrdd o’r Senedd dros yr Haf, mae Rhun ap Iorwerth wedi gofyn i Arweinydd y Ceidwadwyr ystyried fod amgylchiadau rhai aelodau’n wahanol iawn.
“Dw i’n byw yn wahanol iawn i Andrew RT Davies,” meddai Aelod Cynulliad Môn.
“Dw i’n gorfod teithio yn bell iawn i gyrraedd y Cynulliad ac yn dad i dri o blant. Mae o’n gofyn i bobol dreulio bob wythnos i ffwrdd o’u teuluoedd.”
Yn ôl swyddfa Andrew RT Davies mae Aelodau Cynulliad i ffwrdd o’r Senedd am hyd at 20 wythnos o’r flwyddyn. Ond mae Rhun ap Iorwerth yn dadlau fod aelodau’n weithgar iawn yn ystod eu cyfnod i ffwrdd:
“’Recess’ ydi’r gair Saesneg – sy’n wahanol iawn i wyliau,” meddai’r cyn-newyddiadurwr.
“Er mwyn i mi allu gwasanaethu etholwyr Ynys Môn, mae’n rhaid i mi weithio’n ddi-baid. Does dim digon o oriau yn ystod y dydd i wneud yr holl waith.”
Dywedodd yr Aelod Cynulliad dros Ynys Môn ei fod yn lwcus iawn i gael pedair wythnos i ffwrdd o’r gwaith bob blwyddyn.
Ateb?
Mae Rhun ap Iorwerth yn gobeithio y bydd mwy o bwerau deddfwriaethol yn dod i’r Cynulliad ond mae hefyd yn galw am newidiadau i’r ffordd bresennol o weithio.
“Mae angen i Aelodau’r Cynulliad weithio’n fwy effeithlon yn ystod yr amser yn y Bae,” meddai.