Swyddfeydd y cwmni yn Abertawe (o'u gwefan)
Mae cwmni arbed ynni yn y broses o gyflogi 360 o weithwyr newydd yn ardal Abertawe.
Bwriad Nationwide Energy Services yw cynyddu eu gwasanaeth ateb galwadau ac maen nhw wedi dechrau cyflogi gweithwyr newydd.
Fe gafodd y cwmni ei sefydlu yn Abertawe yn 2005 ac mae’n arbenigo ar roi cyngor i bobol am grantiau arbed ynni, a hynny ar draws gwledydd Prydain.
Mae’r gwasanaethau’n cynnwys gwybodaeth am yr arian sydd ar gael ar gyfer inswleiddio cartrefi neu drin waliau gwag.
Maen nhw eisoes wedi cyflogi 60 o staff newydd ac yn chwilio am 300 arall er mwyn delio gyda chymaint â 4,000 o ymweliadau â chartrefi bob wythnos.
“Mae’r ymgyrchu am effeithiolrwydd ynni wedi taro tant gyda pherchnogion cartrefi ar draws y Deyrnas Unedig ac felly mae ein busnes yn ffynnu,” meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Dean Price, mewn datganiad.
Mae gwefan y cwmni, sydd ym Mharc Menter Abertawe, yn cyhoeddi eu bod yn recriwtio ar hyn o bryd.