Bydd cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus i drafod dyfodol Gwylwyr y Glannau yn dechrau’r wythnos nesaf.

Dros y penwythnos daeth cannoedd o bobol i Gaergybi i brotestio’n erbyn cynlluniau’r Maritime and Coastguard Agency (MCA) i gau gorsafoedd Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi ac Aberdaugleddau yn gyfan gwbl a chau gorsaf Abertawe yn ystod y nos.

Mae’r MCA yn bwriadu creu dwy ganolfan i ateb galwadau brys – un yn Aberdeen a’r llall ym Mhortsmouth neu Southampton.

Wythnos yn ôl wrth i drigolion Aberdaugleddau brotestio yn erbyn y bwriad i gau’r orsaf leol, fe ddywedodd Nerys Evans AC Canolbarth a Gorllewin Cymru bod Plaid Cymru am weld ymgynghori er mwyn cael barn y bobol am doriadau a fyddai, meddai hi, yn peryglu bywydau.

“Dan gynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig fydd dim gwasanaethau brys yng Nghymru yn ystod y nos … bydd digwyddiadau’n cael eu trin yn Southampton. Mae hyn yn gwbl annigonol, yn ddi-hid a pheryglus.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth, sydd wedi trefnu’r cyfarfodydd cyhoeddus, y bydd “yn gyfle i’r cymunedau’n lleol glywed mwy, i ofyn cwestiynau ac i ddweud eu dweud”.

Dyma’r dyddiadau: Caergybi, Mawrth 2; Aberdaugleddau, Mawrth 4 ac Abertawe, Mawrth 7

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 24 Chwefror