Stuart Williams Llun: Clwb Rygbi Pontypridd
Mae Clwb Rygbi a chymuned Pontypridd mewn sioc wedi i un o’u chwaraewyr, Stuart Williams, farw’n sydyn ddoe.

Mewn datganiad ar wefan y clwb ddydd Llun, fe gadarnhaodd y clwb y newyddion, gan fynegi’u cydymdeimlad i’w deulu.

“Roedd Stuart yn gymeriad poblogaidd o gwmpas y clwb, a oedd yn rhoi popeth ar y cae fel prop gweithgar, ac yn aelod ffyddlon ac a roddodd wasanaeth hir i’r garfan.

“Mae’r clwb wedi cael sioc ofnadwy o glywed y newyddion am farwolaeth Stuart, ac mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad gyda’i deulu ifanc yn ystod eu galar.”

Teyrngedau’n parhau

Heddiw cafodd mwy o deyrngedau eu rhoi i’r gŵr a gafodd ei ddisgrifio fel “conglfaen y clwb”.

Dywedodd y clwb  fod negeseuon a chydymdeimladau’n parhau i ddod o bob cwr o’r wlad, oddi wrth gyd-weithwyr, cefnogwyr a phobl yn ehangach o gymuned rygbi Cymru.

Ymunodd Stuart Williams, yn wreiddiol o Glyncoch, â chlwb Pontypridd yn 2003 ac fe aeth ymlaen i chwarae cyfanswm o 238 o gemau cystadleuol a chyfeillgar dros y clwb.

Fe oedd yr unig chwaraewr yn y garfan bresennol oedd wedi chwarae ym mhob tymor dros y clwb yn eu cyfnod lled-broffesiynol.

Mae’r newyddion trist yn ychwanegu at wythnos emosiynol i glwb Pontypridd wedi iddyn nhw ffarwelio â’u prif hyfforddwr, Dale McIntosh, sydd yn gadael i ymuno â’r Gleision wedi 24 mlynedd.

Mae Stuart Williams yn gadael gwraig Vicky, a dau o blant, Harvey a Megan.