Matthew Rees
Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau heddiw fod eu capten Matthew Rees am gael llawdriniaeth i’w geilliau.

Ni fydd ar gael i chwarae i’r Gleision yn y dyfodol agos oherwydd y llawdriniaeth, ac nid yw’r clwb wedi datgelu pa mor hir fydd Rees yn absennol.

Dywedodd y clwb eu bod yn dymuno gwellhad buan i Rees a’u bod yn edrych ymlaen at ei weld yn chwarae eto yn y dyfodol agos.

Mae’r llawdriniaeth yn golygu nad yw Rees yn debygol o chwarae dros Gymru  yng ngemau rhyngwladol yr Hydref ym mis Tachwedd.

Ymunodd Rees a’r Gleision dros yr haf o’r Scarlets wedi naw mlynedd gyda’r rhanbarth, ond ni chwaraeodd lawer y tymor diwethaf oherwydd anafiadau.

Mae ganddo 58 o gapiau dros ei wlad hyd yn hyn, ac roedd yn rhan o reng flaen Gymreig y Llewod ar eu taith yn Ne Affrica yn 2009 gydag Adam Jones a Gethin Jenkins.

Dywedodd rhanbarth y Gleision yn eu datganiad na fydden nhw’n gwneud unrhyw sylw pellach a’u bod yn gofyn am barchu preifatrwydd Rees yn ystod y cyfnod yma.