Mae ail gyfle i gefnogwyr chwaraeon fachu tocynnau ar gyfer Gemau’r Gymanwlad wedi arwain at alw mawr am y tocynnau ychwanegol, meddai’r trefnwyr.

Ers 10 bore ma mae’r rhai oedd wedi methu sicrhau sedd ar gyfer y Gemau  yng Nglasgow yn 2014 y tro cyntaf wedi cael ail gyfle i brynu tocyn.

Llwyddodd rhai i gael gafael ar docyn, ond bu eraill yn cwyno ar  Twitter eu bod wedi gorfod aros am awr ar-lein i brynu tocyn.

Mae blaenoriaeth yn cael ei roi i i bobl oedd eisoes wedi gwneud cais, ond ‘cynta i’r felin’ yw hi.

Yn ystod y pedair wythnos oedd wedi’u clustnodi i bobl geisio am docynnau, bu 2.3 miliwn o geisiadau am filiwn o docynnau. Ymhlith y campau mwyaf poblogaidd mae seiclo trac.

Bydd pawb sydd wedi gwneud cais am docynnau yn cael eu prynu tan 6yh ar ddydd Sadwrn, 26 Hydref.