Bryan Yogi Davies
Mae hunangofiant y chwaraewr rygbi o’r Bala, Bryan ‘Yogi’ Davies, wedi cael ei gyhoeddi yn y Saesneg  gan y Lolfa’r wythnos hon.

O dan y teitl ‘The Scrum that Changed my Life’, mae’n dilyn y fersiwn Gymraeg Mewn Deg Eiliad a gipiodd wobr y gwerthwr gorau ffeithiol yng Ngwobrau’r Diwydiant Cyhoeddi yn 2009.

Cafodd Yogi ei barlysu yn ei gêm rygbi olaf cyn ymddeol i glwb y Bala yn 2007, ar ôl torri ei wddw wrth i sgrym gyntaf y gêm ddisgyn.

Wedi blynyddoedd mewn cadair olwyn  gyda’i anabledd, yn drist iawn fe fu farw ar  30  Awst eleni, ac fe fu dros 700 o bobl yn ei angladd a gafodd ei gynnal ar y cae lle’i anafwyd, i dalu teyrnged iddo.

Er y bu’i fywyd mewn perygl yn dilyn y ddamwain, fe frwydrodd Yogi yn ôl ac er ei fod mewn cadair olwyn ac angen gofal 24-awr y dydd, parhaodd i hyfforddi rygbi tan yn ddiweddar.

‘Ysbrydoliaeth’

Yn ystod yr angladd bu Dennis Gethin, Llywydd Undeb Rygbi Cymru, yn talu teyrnged i Yogi  gan ddweud ei fod yn ysbrydoliaeth i rygbi yng Nghymru.

“Bob tro roedden ni’n cwrdd, roedd yn ysbrydoliaeth lwyr – ac mae Cymru a rygbi Cymru yn dlotach hebddo,” meddai Dennis Gethin. “Am ddyn, ac am golled i Gymru.”

Yn ôl Lefi Gruffudd o wasg y Lolfa, mae gobaith y bydd y gyfrol Saesneg yn lledaenu stori ddirdynnol Yogi i gynulleidfa ehangach.

“Dyma’r hunangofiant mwya’ gonest a dirdynnol i’r Lolfa ei gyhoeddi erioed,” meddai Lefi Gruffudd.

“Roedd yr ymateb i’r llyfr Cymraeg yn brawf o boblogrwydd Yogi fel person a sut i’r stori gyffwrdd cymaint o galonnau yng Nghymru. Gobeithio bydd y gyfrol Saesneg yn fodd o ledu’r stori ddirdynnol yma ymhellach.”

Cafodd y gyfrol Saesneg ei gyd-ysgrifennu gan Yogi ac Elfyn Pritchard, y gŵr fu’n gyfrifol am y fersiwn Gymraeg gwreiddiol hefyd, ac yn cynnwys teyrnged ei ferch yn ogystal â llythyr olaf gan y dyn ei hun.

Mae’r llyfr nawr ar gael gan wasg y Lolfa am £9.95 ac mewn siopau lleol.