Mae cynllun newydd yn cael ei lansio heddiw er mwyn annog pobl Cymru i ddod at ei gilydd i brynu ynni ar y cyd i geisio sicrhau biliau llai.
Nod cynllun Cyd Cymru yw denu 10,000 o ddefnyddwyr yn ystod chwe wythnos cynta’r cynllun.
Y gobaith yw y bydd y cynllun yn arbed cannoedd o bunnoedd y flwyddyn i deuluoedd yng Nghymru.
Mae Cyd Cymru yn gynllun sydd wedi ei greu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg gyda chefnogaeth awdurdodau lleol eraill a chymdeithasau tai yng Nghymru.
Cafodd cynllun tebyg ei lansio yng Nghernyw’r llynedd.
Yn ôl Cyd Cymru mae’r syniad o newid cyflenwyr ar y cyd yn debyg i swmp brynu cynhyrchion er mwyn cael pris gwell.
Maen nhw’n annog y rheini sydd â diddordeb mewn derbyn cytundeb gwell i ddod at ei gilydd cyn cysylltu â’r cyflenwyr ynni.
“Po fwyaf o bobl sy’n gwneud hyn y mwyaf deniadol fydd grŵp o gwsmeriaid i’r cyflenwyr ynni,” medd Cyd Cymru.
Dywed Cyd Cymru fod cynllun tebyg yng Nghernyw yn 2012 wedi helpu mwy na 1,000 o bobl i arbed £133 ar gyfartaledd ar eu biliau ynni blynyddol a bod rhai teuluoedd wedi arbed mwy na £700.
Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Nwy Prydain y bydd eu biliau’n codi 9.2% o 23 Tachwedd wedi i gwmni SSE gyhoeddi y bydd eu biliau nhw yn codi 8.2% o 15 Tachwedd.