Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf
Fe fydd yr Ysgrifennydd Ynni Ed Davey yn amlinellu manylion cytundeb i adeiladu pwerdy niwclear newydd yng Ngwlad yr Haf – y cyntaf ers cenhedlaeth.

Mae’r cytundeb gyda chwmni ynni EDF o Ffrainc “yn torri tir newydd” meddai Ed Davey. Bydd Hinkley Point C yn dechrau cynhyrchu trydan yn 2023.

Ond mae disgwyl beirniadaeth  ynglŷn â’r pris o £92.50 sydd wedi cael ei gytuno ar gyfer pob megawatt o drydan a fydd yn cael ei gynhyrchu bob awr ar y safle – tua dwywaith gymaint y pris sy’n cael ei dalu ar hyn o bryd.

Fe allai’r pris ostwng £3 os yw adweithydd arall yn cael ei ddatblygu yn Sizewell.

Mae disgwyl i’r cytundeb redeg am 35 mlynedd a bydd pris y trydan yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â graddfa chwyddiant CPI.

Deellir y bydd China General Nuclear Power Group a China National Nuclear Corporation  yn buddsoddi yn y cynllun gwerth oddeutu £14 biliwn.

Dywed y Llyowdraeth y bydd yn creu miloedd o swyddi ac yn golygu biliau llai i gwsmeriaid ond mae gwrthwrthwynebwyr yn rhybuddio y bydd biliau’n uwch o ganlyniad i’r cynllun.