Craig Bellamy
Fe fydd Craig Bellamy’n chwarae ei gêm ryngwladol olaf heno wrth i Gymru herio Gwlad Belg yng ngêm ragbrofol olaf Grŵp A, Cwpan y Byd.

Chwaraeodd Bellamy ei gêm gyntaf dros ei wlad ym Mawrth 1998 wrth i Gymru herio Jamaica ar Barc Ninian, gan sgorio ei gôl ryngwladol gyntaf yn erbyn Malta y mis Mehefin hwnnw.

Roedd yn gapten ar ei wlad rhwng 2007 a 2011 wedi i Ryan Giggs ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

Bydd ymosodwr Caerdydd yn ennill cap rhif 78, a’r olaf, mewn gyrfa sydd wedi gweld sawl uchafbwynt, yn ogystal â siomedigaethau yng nghrys coch Cymru.

Ymysg yr uchafbwyntiau mae gôl fuddugol Cymru wrth iddyn nhw guro Yr Eidal o 2-1 yn Stadiwm y Mileniwm ar 16 Hydref 2002 – union 11 mlynedd i fory yn addas iawn.

Fe sgoriodd deirgwaith dros ei wlad mewn gêm gofiadwy arall oddi-cartref yn erbyn Slofacia ym Medi 2007.

Atgofion chwerw

Siomedigaeth fwyaf cenhedlaeth Bellamy o chwaraewyr Cymru oedd methu a chyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop yn 2004 dan reolaeth Mark Hughes.

Roedd Bellamy wedi’i anafu wrth i’r Cymry herio Rwsia yn y gemau ail-gyfle gan sicrhau gêm gyfartal 0-0 oddi-cartref yn Moscow cyn wynebu tor calon wrth golli 0-1 yn Stadiwm y Mileniwm.

Wrth i’r tîm cenedlaethol ennill tir dan ei arweiniad, heb os roedd colli Gary Speed yn ergyd fawr i Bellamy – roedd Speed yn gyfaill agos iddo wedi iddynt dreulio cyfnod gyda’i gilydd yn Newcastle, yn ogystal ag yn nhîm Cymru. Roedd Bellamy’n gapten ar Gymru wrth iddynt herio Costa Rica mewn gêm arbennig er cof am Speed.

Er gwaethaf yr uchafbwyntiau, mae’n debyg fod mwy o siomedigaethau wedi bod yng nghyfnod Bellamy yng nghrys coch Cymru.

Er hynny, roedd Bellamy bob amser yn ffyddlon i’w wlad ac fe chwaraeodd trwy boen anafiadau sawl gwaith dros yr achos.

Nodweddiadol

Roedd yn nodweddiadol fod Bellamy yng nghanol popeth wrth i Gymru guro Macedonia yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener – fe gyfunodd yn wych gydag Aaron Ramsey i roi’r gôl fuddugol ar blât i Simon Church.

Bellamy oedd yn gyfrifol am greu cyfle o’r smotyn i Ramsey er mwyn selio’r gêm, ond gwrthododd y cyfle i gymryd y gic ei hun er mwyn coroni ei ymddangosiad cartref olaf i Gymru gyda gôl.

“Does dim sentiment mewn pêl-droed,” oedd eglurhad plaen Bellamy wedi’r gêm.

Rheolwr nesaf

Mae llawer yn dyfalu mai’r ymosodwr fydd rheolwr nesaf Cymru wrth i ddyfodol y rheolwr presennol, Chris Coleman, barhau’n ansicr.

Er i’r fuddugoliaeth yn erbyn Macedonia ysgafnhau rhywfaint ar y pwysau sydd wedi bod ar Coleman, mae wedi awgrymu dros y dyddiau diwethaf nad yw’n siŵr ei hun os yw am aros yn y swydd.

Wrth baratoi i herio Gwlad Belg heno, sydd eisoes wedi selio eu lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ym Mrasil, mae  Bellamy wedi pwysleisio fod y dyfodol yn ddisglair i Gymru.

“Fe wnawn ni geisio sbwylio fo iddyn nhw,” meddai Bellamy am y gêm sy’n cael ei gweld fel dathliad i Wlad Belg.

“Datblygu’r tîm a gweld cynnydd sy’n bwysig.”

“Os ydy Chris Coleman am aros yna mae hynny’n grêt, ond os mai rhywun arall fydd yno, wel, dyna bêl-droed.”

“Mae un peth yn sicr, mae’r wlad yma angen gweld cynnydd a dechrau rhoi ei hun ar y map.”

Wrth iddo baratoi ar gyfer ei gêm olaf dros Gymru, mae Bellamy eisoes wedi cadarnhau ei le yn llyfrau hanes pêl-droed fel chwaraewr, ond tybed os mai ef fydd y dyn i greu hanes fel rheolwr y tîm cenedlaethol.