James Hook
Mae’n dechrau troi’n thema gyfarwydd erbyn hyn, ond unwaith yn rhagor ar eitem Golwg360 ‘Cymry oddi cartref’, James Hook sy’n cipio’r clod.

Er i’w dîm Perpignan golli 27-22 i Gaerloyw yn eu gêm agoriadol o Gwpan Heineken, fe allan nhw ddiolch i’r Cymro am gadw o fewn cyrraedd.

Sgoriodd Hook bob un o bwyntiau Perpignan, gan gynnwys trosi cais ei hun a llwyddo gyda phum cic gosb, ond yn anffodus iddo ef, ofer oedd yr ymdrech gyda Chaerloyw yn ei hennill hi’n hwyr.

A gyda gemau’r hydref ar y gweill i Gymru, mae’n amlwg ei fod yn gosod ei farc gyda’i glwb wrth iddo geisio cael ffordd yn ôl mewn i dîm Gatland.

Daeth Luke Charteris oddi ar y fainc i Perpignan gyda chwarter awr yn weddill wrth iddo ddychwelyd o anaf, ac fe ddechreuodd Martyn Thomas i’r gwrthwynebwyr.

Phil Dollman oedd yr unig Gymro ar y cae i Gaerwysg brynhawn ddoe wrth iddyn nhw faeddu Gleision Caerdydd 44-29 ar ôl chwalu’r tîm Cymreig yn yr hanner cyntaf.

Dechreuodd Lee Byrne i Clermont eto wrth iddynt hwythau ddechrau ar eu hymgyrch Cwpan Heineken gan golli 13-9 i Racing Metro, sydd dal yn eisiau Jamie Roberts a Dan Lydiate gydag anafiadau.

Colli oedd hanes George North gyda Northampton hefyd wrth iddyn nhw gael eu trechu 19-13 i ffwrdd yn Castres, gyda’r cawr o Gymro’n methu â sgorio.

Daeth Owen Williams oddi ar y fainc i Gaerlŷr a throsi cic gosb hwyr, ond nid oedd yn ddigon wrth i’w dîm golli i Ulster 22-16 yng Ngrŵp 5.

Yng Nghwpan Amlin cafodd Darren Allinson ac Andy Fenby hwyl dda arni wrth i Wyddelod Llundain chwalu Cavalieri 60-11 nos Wener, gyda’r ddau ohonynt yn llwyddo i sgorio cais yr un, ac Allinson yn ychwanegu trosiad yn ogystal.

Dechreuodd Gavin Henson a Martin Roberts i Gaerfaddon wrth iddyn nhw drechu Bordeaux 6-15, tra bod Jonathan Mills yn nhîm Sale gafodd fuddugoliaeth gyfforddus o 33-10 yn erbyn Biarritz – oedd ag Aled Brew yn dechrau ar yr asgell wrth iddo yntau ddychwelyd i’r tîm.

Seren yr wythnos: James Hook – am y trydydd gwaith yn olynol, ond pwy all ddadlau gyda’i 22 pwynt?

Siom yr wythnos: George North – fawr o argraff wrth i Northampton gychwyn eu hymgyrch Ewropeaidd gyda cholled.