Leanne Wood
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi beirniadu Cyngor Rhondda Cynon Taf a gyhoeddodd gynlluniau ddoe i wneud arbedion o £56 miliwn dros y pedair blynedd nesaf.

Mae’n cynnwys cau llyfrgelloedd a chanolfannau dydd i’r henoed. Mae’n dilyn gostyngiad yng nghyllideb awdurdodau lleol a gyhoeddwyd yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru wythnos diwethaf.

Fe fydd cynghorau yn cael clywed yfory beth fydd manylion eu cyllideb.

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd Leanne Wood: “Fe fydd y toriadau yma yn cael effaith andwyol ar gymunedau bregus o Dreorci i Ffynnon-Daf. Maen nhw hefyd yn mynd i effeithio’r rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas.”

‘Straen ar deuluoedd’

Mae’r toriadau’n cynnwys cynlluniau i newid yr oedran y mae plant yn cael eu derbyn i ysgolion y sir gan olygu y byddai plant yn mynd i’r ysgol rhan amser y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair  oed yn hytrach na’n llawn amser. Dywed yr awdurdod lleol y byddai’n arbed £4.5m y flwyddyn.

Y cynlluniau eraill sydd dan ystyriaeth yw cau 14 o lyfrgelloedd a chau 10 canolfan ddydd i’r henoed.

Dywedodd Leanne Wood y bydd y toriadau i ddarpariaeth addysg feithrin yn effeithio rhieni sy’n gweithio a fydd yn gorfod talu am ofal plant am flwyddyn arall, gan roi straen ychwanegol ar gyllideb teuluoedd.

“Mae’n siomedig bod y newyddion yma wedi dod wythnos ar ôl i Blaid Cymru sicrhau cytundeb yn y Gyllideb ddrafft a fyddai’n helpu plant o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig.

“Fe fyddai cau mwy na hanner y llyfrgelloedd yn y sir hefyd yn cael effaith pellach ar addysg a chymunedau yn Rhondda Cynon Taf, yn enwedig ar gyfraddau llythrennedd.

“Mae llyfrgelloedd yn llefydd lle gall plant sydd heb gyfrifiadur neu fynediad at y rhyngrwyd fynd i wneud eu gwaith cartref. Maen nhw hefyd yn llefydd lle gall pensiynwyr gymdeithasu.

“Nid yw’r toriadau yma wedi cael eu trafod gyda chynghorwyr Plaid Cymru a fyddai wedi gallu cynnig cynlluniau gwahanol i wneud arbedion petai’r cyngor wedi ymgynghori a nhw yn y man cyntaf.”

‘Sbin’

Awgrymodd Leanne Wood y gallai’r cyngor “wneud arbedion yn ei adran gyfathrebu neu ‘sbin’ sydd â chyllideb o fwy na £1 miliwn.”

Dywedodd arweinydd y Cyngor, y cynghorydd Anthony Christopher ddoe bod y sefyllfa fel “Armageddon” i lywodraeth leol.

Dywedodd y byddai’r cynlluniau sy’n cael eu hystyried gan y Cabinet wythnos nesaf yn gwneud arbedion o £8m mewn blwyddyn.

“Fe fyddwn ni’n ymgynghori’n eang gyda’r cyhoedd a’r rhai hynny sy’n defnyddio’r gwasanaethau ac yn ystyried eu sylwadau a’u pryderon cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori o bedair wythnos.”