Aaron Ramsey - methu cic o'r smotyn
Mae Cymru wedi codi o waelod eu grŵp ar ôl curo Macedonia 1-0 neithiwr yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Dyma’r tro cyntaf i Gymru ennill mewn pum gêm, ond mae’r pwysau ar Chris Coleman fel rheolwr yn debygol o barhau.

Simon Church a sgoriodd y gôl fuddugol ganol yr ail hanner,  a llwyddodd Cymru i rwystro dwy ymgais dda gan Goran Pandev a Nikolce Noveski i unioni’r sgôr i’r ymwelwyr.

Er iddo gael gael gêm ragorol ar y cyfan a chwarae rhan allweddol yn llwyddiant Cymru, methodd Aaron Ramsey gic o’r smotyn a ddylai fod wedi dyblu mantais Cymru ar ddiwedd y gêm.