Heno yn Rodney Parade fe fydd y Dreigiau yn croesawu Rugby Mogliano ar gyfer eu gêm agoriadol yng nghystadleuaeth Cwpan Amlin.

Mae rheolwr y Dreigiau Lyn Jones yn obeithiol y gall y Dreigiau parhau gyda’u rhediad arbennig o flaen torf Rodney Parade.

“Mae hi’n grŵp anodd, yn ogystal a Rugby Mogliano heno, byddwn yn disgwyl gemau anodd yn erbyn Bath a Bordeaux-Begles.  Yn y grŵp yma, rwy’n credu bydd yn rhaid ennill dwy gêm i ffwrdd oddi cartref er mwyn sicrhau lle yn y gemau ail gyfle,’’ meddai Lyn Jones, rheolwr y Dreigiau.

Tîm y Dreigiau

Olwyr – Hallam Amos, Will Harries, Adam Hughes, Ross Wardle, Tom Prydie, Kris Burton a Jonathan Evans.

Blaenwyr – Owen Evans, Sam Parry, Francisco Chaparro, Matthew Screech, Rob Sidoli (Capten), Ieuan Jones, Nic Cudd a Toby Faletau.

Eilyddion – Phil Price, Elliot Dee, Dan Way, Netani Talei, Adam Jones, Wayne Evans, Jason Tovey a Lewis Robling.