Greg Dyke
Mae’r pêl-droediwr lliwgar Joey Barton wedi beirniadu tîm pêl-droed Lloegr, a dulliau hyfforddi Syr Alex Ferguson hefyd.

Mae’r Saeson yn herio Montenegro heno.

‘‘Mae tîm cenedlaethol Lloegr yn gachu ar hyn o bryd,’’ meddai Barton ar drothwy’r gêm yn Wembley.

Hefyd mae wedi honni na allai Syr Alex Ferguson gynnal sesiwn hyfforddi i achub ei fywyd, ond mae’n cydnabod ei fod yn reolwr da.

Ac mae’n cyhuddo Greg Dyke a Chymdeithas Bêl-droed Lloegr o fethu a datrys y broblem o ddiffyg talent o safon rhyngwladol ymysg pêl-droedwyr ifanc Lloegr.

Cafodd Barton ei unig gap dros ei wlad yn 2007.