Yfory fe fydd y Scarlets yn herio’r Harlecwiniaid yn eu gêm agoriadol yn y Cwpan Heineken yn Llundain.

Mae rheolwr y Scarlets, Simon Easterby yn ffyddiog y gall y Scarlets gorddi’r dyfroedd ond bydd angen perfformaid arbennig gan Fois y Sosban.

‘‘Mae’r bechgyn wedi gweithio’n galed yr wythnos yma, does dim byd tebyg i wythnos cyn cystadleuaeth y Cwpan Heineken lle mae pawb yn barod i chwarae.  Rydym wedi gweld nifer o bethau da yn ystod y pump wythnos diwethaf, ond allwn ni ddim gwneud camgymeriadau esgeulus,’’ meddai Easterby.

‘‘Rydym wedi canolbwyntio ar y sgrym y tymor yma ac mae wedi bod yn hynod o effeithiol i ni.  Yn ogystal, gennym olwyr sy’n beryglus gyda’r bêl yn eu dwylo, mi fydd hi’n gystadleuaeth arbennig,’’ ychwanegodd easterby.

Ni fydd y bachwr Ken Owens, y reng-ôl Rob McCusker, y prop Deacon Manu na’r ail reng Richard Kelly yn chwarae oherwydd anafiadau.

Mi fydd y gêm yn fyw ar Sky Sports 2 (3:30 y.h) yfory.

Tîm y Scarlets

Olwyr – Liam Williams, Kristian Phillips, Jonathan Davies (Capten), Scott Williams, Jordan Williams, Rhys Priestland a Rhodri Williams.

Blaenwyr – Phil John, Emyr Phillips, Samson Lee, Jake Ball, George Earle, Aaron Shingler, John Barclay a Josh Turnbull.

Eilyddion – Kirby Myhill, Rob Evans, Jacobie Adriaanse, Joe Snyman, Craig Price, Gareth Davies, Steven Shingler a Gareth Maule.