Steffan Evans ar y chwith
Mae cefnwr clwb rygbi Llanelli, Steffan Evans wedi ennill gwobr chwaraewr y mis yn Uwch Gynghrair y Principality.
Fe wnaeth y cefnwr ifanc ddechrau pedair gêm i Lanelli ym mis Medi gan dirio pedair cais.
‘‘Rwy’n mwynhau chwarae yn yr Uwch Gynghrair, mae’n gêm gyflymach na’r gynghrair yr oeddwn yn rhan ohoni y flwyddyn ddiwethaf,’’ meddai Steffan Evans.
Roedd Evans yn chwaraewr allweddol yn nhîm Cymru dan 18 oed wrth iddyn nhw deithio i Dde Affrica.
‘‘Mae chwarae dros Gymru dan 18 oed wedi bod yn brofiad arbennig i ddatblygu fel chwaraewr, yn enwedig herio tîm corfforol fel De Affrica. Fy nod ar gyfer y tymor yw gwneud fy ngorau ar gyfer Llanelli a gobeithio cyrraedd y gemau ail gyfle. Hefyd, byddwn wrth fy modd i gael fy newis ar gyfer tîm Cymru dan 20 oed,’’ ychwanegodd Evans.
Datblygu’n gyflym
Meddai Kevin George, rheolwr Llanelli. ‘‘Mae Steffan wedi ychwanegu egni i’r carfan, ac wedi ymddangos nifer o weithau i dîm Cymru dan 18 oed y tymor diwethaf. Mae wedi datblygu’n gyflym fel chwaraewr mewn cyfnod byr ac wedi ymateb yn dda i’r hyn yr ydym eisiau cyflawni yn y clwb.’’