Bydd diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr yn mynd ar streic arall dros bensiynau, llai na mis ers iddyn nhw streicio ddiwethaf.
Bydd aelodau’r Undeb Frigâd Dân yn cerdded allan o’u gwaith am bump awr o 6.30 nos Sadwrn y 19eg o Hydref.
Mae nhw’n anniddig gyda’r Llywodraeth ynghylch amodau pensiwn, ac yn anhapus fod eu streic cynharach ar y 25ain o Fedi heb newid y sefyllfa.
Galw ar y Llywodraeth i ailystyried
“Roedden ni’n gobeithio y byddai’r streic gyntaf yn ddigon i ddangos i’r Llywodraeth fod diffoddwyr tân hollol o ddifrif ynglŷn a gwarchod y cyhoedd a sicrhau pensiynau teg,” meddai ysgrifennydd cyffredinol yr Undeb Matt Wrack.
“Does dim un diffoddwr tân eisiau streicio, ac mae’n hynod o siomedig bod llywodraethau San Steffan a Chaerdydd yn parhau i wadu’r gwirionedd dros gost pensiynau a’r angen am gynllun pensiwn sy’n adlewyrchu swydd diffoddwyr tân.
“Ni ddylid bod disgwyl i ddiffoddwyr tân achub pobl yn eu 50au hwyr a’u 60au.”
Rhybuddiodd yr Undeb hefyd y byddai’n barod i barhau â’r streiciau os nad oedden nhw’n hapus fod diogelwch y cyhoedd a diffoddwyr tân yn ddigonol.
Mae’r Undeb yn honni bod diffoddwyr tân ymysg y bobl sydd yn talu rhai o’r cyfraniadau pensiwn uchaf yn y Deyrnas Gyfunol, bron i 13% o’u cyflog, gyda chynnydd uwch i ddod y flwyddyn nesaf.
Fodd bynnag, ni fydd diffoddwyr tân yn yr Alban yn streicio am y tro wedi i Lywodraeth yr Alban wneud cytundeb oedd yn bodloni’r Undeb “am y tro”.