Campws newydd Coleg Merthyr
Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi agor campws newydd yng Ngholeg Merthyr Tudful heddiw.

Mae’r coleg chweched yn Ynysfach yn rhan o Brifysgol De Cymru a agorodd ei drysau i 3,000 o fyfyrwyr mis Medi eleni.

Bydd cyfleusterau cyfrifiadurol werth £2 miliwn, gweithdai gwyddoniaeth a neuadd chwaraeon i’w cael yn yr adeilad.

Yn 2010 roedd protestiadau yn erbyn cau colegau chweched mewn pedair ysgol ym Merthyr ond fe benderfynodd Llywodraeth Cymru i’w cau a chreu coleg newydd.