Fe fydd cyfrannau’r Post Brenhinol yn costio 330p pan fyddan nhw’n cael eu gwerthu ar y farchnad stoc wythnos nesaf, fe gyhoeddodd y Llywodraeth heddiw.

Mae’n golygu bod gwerth y grŵp yn £3.3 biliwn. Mae’r Blaid Lafur eisoes wedi dweud bod y pris yn rhy isel.

Mae galw mawr wedi bod am y cyfrannau gyda 700,000 o bobl yn gwneud cais i brynu cyfran o’r Post Brenhinol.