Bydd 86 o bobl yn ymddangos yn y llys heddiw ar gyhuddiadau o fod yn rhan o dwyll yswiriant honedig.

Yn ôl Heddlu Gwent, roedd y sgâm yn cael ei rhedeg o ddau fodurdy,  St David’s Crash Repair a Easifix, ym Mhengam ger Y Coed Duon.

Byddan nhw’n ymddangos yn Llys Ynadon Cwmbrân heddiw.

Cafodd yr 86 eu harestio wythnos diwethaf ac maen nhw wedi cael eu cyhuddo o nifer o droseddau gan gynnwys cynllwynio i dwyllo (cwmnïau yswiriant), cynllwynio i ddwyn cerbydau modur a chynllwynio i wyngalchu arian (money laundering).

Roedd heddweision a’r Swyddfa Twyll Yswiriant wedi bod yn ymchwilio i’r twyll ers mwy na dwy flynedd.