Credir bod llygod y dwr wedi ymgartrefu yn y llyn
Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ceredigion heddiw wedi penderfynu y dylid cael gwared â llyn dadleuol ger Llanbed yn dilyn brwydr gynllunio sydd wedi para ers 20 mlynedd.

Adeiladodd John Rogers lyn 180 metr o hyd ac  80 metr o led a chorlannau ar ei dir ym Mwlchllan, ger Llanbed heb ganiatâd cynllunio yn 1991.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach dywedodd Cyngor Ceredigion wrth John Rogers y byddai’n rhaid iddo ddymchwel y llyn oherwydd pryderon ynghylch diogelwch.

Cafodd John Rogers ei ddirwyo gan ynadon yn 1995 a 1997 am beidio cydymffurfio â gorchmynion y cyngor i adfer y tir.

Ac yn awr mae pwyllgor cynllunio’r cyngor sir wedi gwrthod argymhellion swyddogion yr awdurdod i gefnogi’r cais ôl-weithredol.

Pleidleisiodd 16 o gynghorwyr yn erbyn cymeradwyo’r cais i gadw’r llyn, gydag un yn pleidleisio o blaid, ac un yn ymatal oherwydd anfodlonrwydd ynglŷn â strwythur yr arglawdd.

Mae cynghorwyr wedi gofyn i swyddogion ddechrau camau i orfodi John  Rogers i ddymchwel corlannau’r llyn sydd, i bob pwrpas, yn golygu y bydd yn rhaid iddo gael gwared â’r llyn.

Yn ôl adroddiad gafodd ei gyflwyno gerbron y pwyllgor ddydd Mercher roedd swyddogion yn poeni am effaith adfer y tir ar lygod y dŵr sydd, o bosib, wedi ymgartrefu ger y llyn.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Bydd y Cyngor yn mynd ati’n awr i gyflwyno Hysbysiad Gorfodi i’r perchennog yn mynnu ei fod yn cael gwared â’r llyn.

“Mae’n rhaid i ni ystyried y gallai fod llygod y dŵr yn byw yng nghyffiniau’r llyn, ac felly bydd y Cyngor yn holi cyngor Cyfoeth Naturiol Cymru cyn gweithredu, rhag ofn y bydd angen cymryd camau i ddiogelu unrhyw fywyd gwyllt.”