Mae rheolwyr  ysgol yn Aberdaugleddau yn Sir Benfro wnaeth wahardd bachgen o’r dosbarth wedi iddo shafio gwallt ei ben i hel arian at elusen, wedi newid eu meddyliau wedi i 250 o ddisgyblion gerdded allan mewn protest heddiw.

Roedd Rhys Johnson, 14, wedi ei orchymyn i gael ei addysg ar wahân i weddill y disgyblion wedi iddo  anwybyddu rheolau’r ysgol pan wnaeth o eillio’i ben.

Cododd Rhys Johnson £700 y penwythnos diwethaf pan gymrodd ran mewn bore coffi er budd elusen.

Roedd yn awyddus i godi’r arian ar gyfer ymchwil canser ar ôl i’w fodryb ddioddef o’r  clefyd.

Heddiw, cerddodd 250 o ddisgyblion allan o’r ysgol mewn protest gan achosi’r tro pedol.

Dywedodd Lucy O’Neill, mam Rhys Johnson, y bydd ei mab yn cael mynd nôl mewn i wersi, yn ôl yr arfer, o ddydd Llun ymlaen.