Carl Sargeant
Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sargeant wedi cyhoeddi yr wythnos hon fod £975,000 ar gael i wella cymunedau yn Ynys Môn a gogledd Gwynedd.

Ar ôl cynnal trafodaethau gyda thrigolion lleol, bydd pedwar cynllun i geisio gwneud gwelliannau amgylcheddol a golygfaol, fel gwella goleuadau stryd.

Bydd Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn derbyn £120,000 i wella ystâd tai Bro Seiont, Caernarfon, Llofft Hwyliau Porth Amlwch yn derbyn £160,000 i greu caffi a bwyty modern, a £195,000 i helpu i adnewyddu stordy gwag ar Bier y Tywysog, Porthaethwy.

Roedd Cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn yn llwyddiannus mewn ymgais i gael £500,000 i barhau gyda’r rhaglen o grantiau eiddo ac amgylchedd canol trefi, sy’n rhoi cymorth ariannol i fusnesau lleol.

Ymrwymiad y Llywodraeth

Dywedodd Carl Sargeant: “Mae’r prosiectau hyn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu prosiectau a chymunedau lleol. Mae’n parhau gyda’n buddsoddiad yn yr ardaloedd lle mae’r angen mwyaf.”

Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan ddeilydd portffolio Datblygu Economaidd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Aled Morris Jones.

Dywedodd: “Bydd y grantiau adfywio yma o gymorth i’n hymdrechion i adfywio yn Amlwch a Phorthaethwy ac yn chwarae rhan bwysig i godi eu proffil fel cyrchfannau twristiaeth bwysig ar yr Ynys”.

Ychwanegodd Pennaeth Datblygu Economaidd Môn, Dylan Williams: “Rydym yn hynod o falch bod y Gweinidog a Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd y cynlluniau yma.”