Mae nifer o bryderon wedi codi wedi i FIFA gyhoeddi mai Qatar fydd yn cynnal Cwpan y Byd 2022.

Fe gyhoeddwyd yn 2011 mae’r wladwriaeth ger Saudia Arabia fydd yn croesawu’r  twrnament pêl-droed, er nad yw hi’n wlad sydd hefo diwydiant pêl-droed cryf iawn.

Nid oes modd prynu alcohol yn rhwydd yn Qatar ac mae angen trwydded i wneud hynny. Gellir yfed mewn gwestai, ond am bris uchel iawn – ffaith sydd ddim wedi plesio nifer o gefnogwyr pêl-droed.

Ymfudwyr

Wedi i drefnwyr Cwpan y Byd gynnal ymchwiliadau, mae’r wladwriaeth hefyd yn wynebu cwynion am y ffordd y mae ymfudwyr yn cael eu trin yno.

Mewn datganiad gan drefnwyr Cwpan y Byd, mae gweithwyr o Nepal sy’n adeiladu’r stadiwm yn Qatar yn “cael eu defnyddio a’u cam-drin i lefel sy’n cyfateb i enghraifft fodern o gaethwasiaeth”. Bydd Llywodraeth Qatar yn gwneud ymchwiliadau pellach i’r darganfyddiadau.

Gwres tanbaid

Gall tymheredd o 40 gradd selsiws fod yn broblem arall i’r chwaraewyr yn Qatar. Mae FIFA wrthi’n cynnal trafodaethau am newid amser y twrnament o fis Mehefin a Gorffennaf ac os bydd penderfyniad yn cael ei basio, mae pennaeth y tîm oedd yn archwilio cynnig Qatar, Harold Mayne-Nicholls, wedi galw am ei symud i fis Ionawr a Chwefror. Byddai hyn yn golygu chwarae mewn gwres o 22 gradd selsiws.

Ond gall hyn wrthdaro hefo digwyddiadau chwaraeon eraill sy’n cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwnnw – Gemau Olympaidd y Gaeaf, y Super Bowl a chynghrair y Champions League.

Yn ôl adroddiadau dywedodd llefarydd cymdeithas pêl-droed Qatar eu bod yn fodlon cynnal y twrnament ar ba bynnag adeg. Maen nhw hefyd wedi addo gosod system oeri aer i geisio lleddfu gwres yr haf.

Bydd 27 o swyddogion o FIFA yn cyfarfod heddiw i drafod y pryderon.