Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus wrth i’r Swyddfa Dywydd ragweld cawodydd trwm ar draws Cymru dros nos.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhybuddio y gallai’r glaw arwain at lifogydd lleol gan na fydd draeniau, ffosydd a nentydd bach yn gallu ymdopi â’r glaw trwm.

Er bod y rhan fwyaf o Gymru yn debygol o gael eu heffeithio gan y glaw, mae’n bosib y bydd y de yn ei chael hi’n waeth na unman arall.

Mae pobl sy’n teithio i ac o’r gwaith yn cael eu cynghori i gymryd gofal ychwanegol gan y gall amodau gyrru fod yn beryglus.

Mae rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru ar  wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bob 15 munud ac mae gwybodaeth ychwanegol hefyd i’w gael ar gyfrif Twitter Cyfoeth Naturiol Cymru: @natreswales