Bydd Cyngor Ynys Môn yn trafod cynllun dadleuol i adeiladu parc gwyliau enfawr ger Caergybi heddiw.
Mae cwmni Land & Lakes, o ardal y Llynnoedd, eisiau codi tua 800 o fythynnod gwyliau ar dri safle gwahanol.
Bydd y cyntaf ar hen safle Alwminiwm Môn ym Mhenrhos yn cynnwys 500 o fythynnod yn ogystal â pharc dŵr, neuadd chwaraeon, spas, bwytai, llwybrau cerdded a llwybrau beicio.
Byddai’r ail safle yng Nghae Glas yn cael ei ddefnyddio yn y tymor byr fel llety ar gyfer gweithwyr atomfa newydd Wylfa B cyn bod yn gartref i ragor o fythynnod gwyliau a gwesty. Bydd y trydydd safle yn Kingsland yn cael ei ddatblygu wedi i’r ddau arall gael eu cwblhau.
Mae cynllunwyr y cyngor eisoes wedi cymeradwyo’r cynllun ac mae Land & Lakes yn dweud y byddai 600 o swyddi yn cael eu creu.
Ond mae gwrthwynebwyr yn dweud bod y cynllun yn rhy fawr ac mae pryderon y bydd yn effeithio ar ardal o harddwch naturiol.