Mark Bridger
Bydd dyn, sydd wedi ei garcharu am oes, yn cael ei ddedfrydu heddiw ar ôl iddo ymosod ar Mark Bridger yn y carchar.

Roedd Juvinai Ferreira, 22, wedi pledio’n euog i gyhuddiad o anafu llofrudd April Jones, Mark Bridger, pan ymddangosodd yn Llys y Goron Leeds drwy gyswllt fideo ym mis Medi.

Ymosododd Ferreira ar Bridger, 47 oed, yng Ngharchar Wakefield lai na deufis ar ôl i Bridger gael ei ddedfrydu i garchar am oes am gipio a llofruddio’r ferch bum mlwydd oed ym Machynlleth y llynedd.

Ni chafodd unrhyw fanylion am yr ymosodiad eu cyhoeddi yn y llys.

Yn ôl adroddiadau ar y pryd, bu’n rhaid i Bridger gael triniaeth i’w wyneb yn yr ysbyty ar ôl yr ymosodiad. Fe ddychwelodd i Wakefield ar ôl cael pwythau i’w wyneb.

Cafwyd Ferreira, sy’n dod o Gambia’n wreiddiol, yn euog o lofruddio Elaine Walpole yn Norfolk yn 2008. Cafodd ei garcharu am oes yn Llys y Goron Norwich yn 2009. Dywedodd y barnwr y byddai’n rhaid iddo dreulio o leiaf 22 mlynedd dan glo cyn cael ei ystyried am barôl.