Mae un o brif gwmnïau adeiladu Cymru am roi’r gorau i godi tai mewn rhannau o’r Cymoedd sydd i’r gogledd o Bontypridd, gan nad oes elw i’w wneud yno madden nhw.

Mae Persimmon Homes, sy’n codi 10,000 o dai y flwyddyn ledled Prydain – a thua 1,000 o’r rheiny yng Nghymru – wedi beio rheolau amgylcheddol Llywodraeth Cymru yn ogystal â’r amser mae’n gymryd i gael caniatâd cynllunio.

O gymharu ag ardaloedd o Loegr, mae £3,000 yn cael ei ychwanegu i’r gost o adeiladu tŷ yng Nghymru, yn ôl y cwmni.

£120,000 yw cost tŷ tair llofft yn y Cymoedd o’i gymharu â £160,000 am dŷ’n ardal Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe.

Risg

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr rhanbarthol Persimmon Homes:

“Fel Cymro, mae’r sefyllfa yma yn peri pryder mawr i mi.

“Mae risg i gwmnïau mawr a fyddai’n adeiladu yng Nghymru i fynd i rywle arall – i ddweud y gwir mae hynny yn digwydd yn barod.

“Mae hyn yn bryderus iawn mewn gwlad lle mae ein cryfder economaidd yn dirywio a’n tai yn y cyflwr gwaethaf drwy Ewrop.”

Yn ôl Gweinidog Tai, Carl Sargeant, mae Llywodraeth Cymru wedi llacio rheolau adeiladu ers mis Gorffennaf ac eisiau cefnogi teuluoedd i brynu tai.