Bydd swyddogion Safonau Masnachu awdurdodau lleol yn cynnal archwiliadau mewn safleoedd arlwyo ledled Cymru yn ystod mis Medi a Hydref.

Bwriad ymgyrch Hybu Cig Cymru (HCC), y corff sy’n gyfrifol am farchnata cig coch o Gymru, yw sicrhau nad yw bwytai a siopau yn camarwain cwsmeriaid hefo honiadau ffug am darddiad eu cig oen a chig eidion.

“Mae Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI yn cael eu cynhyrchu i safonau uchel gan ein ffermwyr a phroseswyr ac maen nhw’n haeddu’r enw da sydd ganddyn nhw am ansawdd, nid yn unig yma yn y DG ond hefyd ar draws y byd” meddai Prif Weithredwr HCC, Gwyn Howells.

“Yn anffodus, pryd bynnag y bydd cynnyrch o ansawdd uchel yn cael ei gynhyrchu, bydd rhai pobl anghyfrifol yn ceisio gwneud elw cyflym wrth hawlio taw cynnyrch uwchraddol yw’r cynnyrch israddol sy’n cael ei werthu ganddyn nhw.

“Mae hyn nid yn unig yn ergyd ariannol i’r defnyddiwr, ond mae hefyd yn niweidio enw da Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI pan nad yw’r pryd o fwyd cystal â’r disgwyl,” meddai.

Sgandal Cig Ceffyl wedi achosi niwed

Dywedodd Andy Mackay, Ysgrifennydd Penaethiaid Safonau Masnachu’r Grŵp Safonau Bwyd ac Amaeth, fod y broblem ynglŷn â chig ceffyl wedi niweidio ymddiriedaeth defnyddwyr â chig.

“Rydym yn cynnal archwiliadau i wneud yn siŵr fod y cyhoedd yn cael yr union beth y maen nhw’n talu amdano. Gan ddibynnu ar yr hyn y byddwn yn ei ddarganfod, rydym yn gobeithio tawelu meddwl y defnyddiwr a helpu i ddiogelu enw da cynhyrchion uwchraddol Cymru” meddai.

Mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru wedi ennill statws nodedig Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae hyn yn golygu taw dim ond cig o ddefaid a gwartheg sydd wedi’u geni a’u magu yng Nghymru ac sydd wedi’u prosesu mewn lladd-dai neu unedau torri cig wedi’u cymeradwyo gan HCC sydd â’r hawl i gael ei ddisgrifio’n gig ‘Cymru’.