Mae cwmni Amazon yn bwriadu cyflogi 1,500 o weithwyr tymhorol yn Abertawe dros y Nadolig fel rhan o’u cynlluniau i gyflogi 15,000 yn eu canolfannau led-led gwledydd Prydain.

Yn ôl y cwmni bydd “cannoedd” o’r gweithwyr yna yn trosglwyddo i swyddi parhaol yn y flwyddyn newydd.

Mae cwmni Amazon yn mynd o nerth i nerth wrth werthu nwyddau ar lein.

Yn 2012 cafodd 10,000 eu cyflogi dros y Nadolig gan gynnwys 1,000 o’r rhain yn Abertawe.

Roeddyn nhw’n gwerthu un peth bob 44 eiliad yn ystod eu diwrnod prysuraf llynedd.