Mae’r achos tribiwnlys rhwng y BBC a’r asiantaeth hawliau perfformio Eos yn dechrau heddiw.
Fe fydd y gwrandawiad yn Llys y Goron Caernarfon yn penderfynu faint y bydd cyfansoddwyr Cymraeg yn ei gael am chwarae eu caneuon ar Radio Cymru.
Yn ôl Eos, mae’r ffordd y mae’r BBC yn trin caneuon Cymraeg yn annheg a heb fod yn cydnabod gwerth y gerddoriaeth i’r gwasanaeth radio.
Streic
Ynghynt eleni, fe aeth cannoedd o gerddorion ar streic, gan wrthod yr hawl i Radio Cymru chwarae eu cerddoriaeth.
Yn y cyfnod hwnnw, fe syrthiodd cynulleidfa’r orsaf i’w lefel isaf erioed ac nid cyd-ddigwyddiad oedd hynny, meddai Eos.
Fe gafodd yr asiantaeth ei ffurfio yn rhannol oherwydd yr anghydfod ac anhapusrwydd gyda’r ffordd yr oedd y BBC a’r asiantaeth Brydeinig, y PRS, yn dosbarthu arian.
Mae’r BBC wedi rhoi dau gyfraniad o £50,000 i Eos i’w helpu nhw gyda’r achos – roedd £35,000 o’r ail gyfraniad yn benodol at gyflogi tîm cyfreithiol ar gyfer y tribiwnlys.