Mae undebau athrawon yr NUT a’r NASUWT wedi penderfynu peidio â chynnal streiciau fis Hydref ar draws ysgolion yng Nghymru ar ôl trafodaethau â Llywodraeth Cymru.

Mae’r undebau’n anhapus gyda chynlluniau i newid cyflogau, pensiynau ac amodau gwaith athrawon.

Mae’n ymddangos bod yr undebau wedi anfon llythyr at yr Ysgrifennydd Addysg Michael Gove ynghyd â’r Gweinidog Addysg yng Nghymru Huw Lewis, gan amlinellu sut i osgoi’r streiciau.

Ond, yn ôl yr undebau, roedd Llywodraeth Cymru yn fwy parod i drafod y mater er mwyn ceisio dod i gytundeb ynglŷn â’r anghydfod nag yr oedd Llywodraeth San Steffan.

Yn ôl llefarydd ar ran yr undebau, “Tra bod yr Ysgrifennydd Addysg yn San Steffan yn parhau i wrthod a thrafod, mae’r gweinidog newydd yng Nghymru wedi pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddelio â phryderon athrawon er mwyn datrys y sefyllfa. Rydym yn croesawu gwrthwynebiad llym Llywodraeth Cymru i ymosodiadau’r Ysgrifennydd Addysg yn San Steffan ar gyflogau, pensiynau ac amodau gwaith athrawon.”

Bydd trafodaethau yn parhau rhwng yr NUT, NASUWT a Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio datrys yr anghydfod.