Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn digwyddiad yn Llandudno nos Sul pan fu farw dynes yn ei 50au yn dilyn byrgleriaeth honedig yn ei chartref.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad yn Ffordd Dewi Sant, Llandudno tua 11.30yh nos Sul yn dilyn adroddiadau bod aflonyddwch mewn tŷ yno.
Cafodd dyn 36 oed ei arestio ar amheuaeth o fyrgleriaeth.
Tua’r un pryd, cafodd y ddynes ei tharo’n wael a’i chludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan lle bu farw yn oriau man y bore ma.
Mae ei theulu wedi cael gwybod am ei marwolaeth ac yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu.
Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal i geisio darganfod achos ei marwolaeth.
Dywedodd yr Arolygydd Steve Williams bod eu hymchwiliadau’n parhau a’u bod yn apelio ar unrhyw un a oedd yn Ffordd Dewi Sant tua 11.15yh neithiwr ac a glywodd neu a welodd y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101 neu’n ddienw i Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.
Mae’r heddlu’n cynnal ymholiadau o dŷ i dŷ heddiw.
Mae’r dyn yn aros i gael ei holi gan yr heddlu.