Mae cynghorau sir yn y canolbarth a’r de yn galw ar Lywodraeth Prydain i roi stop ar arferiad cwmnïau gwyliau a hedfan o godi eu prisiau yn ystod gwyliau’r haf.

Yn ôl cynghorau Caerfyrddin, Ceredigion, Castell Nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys ac Abertawe, mae’r cwmnïau yn ymddwyn yn anfoesol, gan achosi i rieni dynnu eu plant o ysgolion yn ystod y tymor.

Mae’r alwad yn rhan o ymgyrch i leihau absenoldeb plant o’r ysgol.

Meddai Prif Gyfarwyddwr Cosnortiwm Addysg Canolbarth a De Orllewin Cymru, Eifion Evans. “Mae addysgu plant yn hollbwysig ac mae ymchwil yn dangos bod mynychu ysgol yn ffactor bwysig wrth wneud yn dda.

“Wedi dweud hynny, rydym yn deall rhwystredigaeth rhieni, ac yn wir yr holl bobol sy’n gweithio ym myd addysg, sy’n cael eu gorfodi i dalu prisiau uwch am wyliau.

“Mae hyn yn hollol anghfiawn ac anfoesol ac mae’n rhywbeth y byddem yn annog y Llywodraeth i edrych fewn iddo.”