Mae Ysgol Uwchradd y Dwyrain yng Nghaerdydd wedi gorfod cau er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw brys, er iddi agor ei drysau am y tro cyntaf ddydd Llun.

Bu athrawon yn anfon negesuon at rieni yn dweud bod yn rhaid cau’r ysgol.

Fe agorwyd yr ysgol ddydd Llun ar gyn safle Ysgol Llanrhymni a Tredelerch.

Mae’r ysgol yn cyfuno 1,500 o ddisgyblion o’r ddwy ysgol.

Mae datganiad ar wefan yr ysgol yn dweud bod yr ysgol wedi cau am fod angen gwneud “gwaith cynnal a chadw brys ac anrhagweladwy”.

“Rydym yn ymddiheuro am y diffyg rhybudd ac am unrhyw anghyfleustra.

“Byddwn yn eich hysbysu am y datblygiadau, ac yn gweithio er mwyn ailagor yr ysgol cyn gynted â phosib.”

Roedd Cyngor Caerdydd yn bwriadu agor yr ysgol yn 2014 ond cafodd Ysgol Uwchradd Llanrhymni  ei chau flwyddyn yn gynt na’r cynllun gwreiddiol yn dilyn pryder wedi i’r ysgol gael ei rhoi o dan fesurau arbennig ym mis Hydref y llynedd.