Ann Clwyd
Mae Llywodraeth Cymru’n gyndyn i gyfaddef bod diffygion difrifol yn y Gwasanaeth Iechyd, yn ôl yr Aelod Seneddol, Ann Clwyd.

Mae AS Llafur dros Gwm Cynon wedi galw eisoes am ymchwiliad annibynnol cyhoeddus i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd yn dilyn adroddiad gan lawfeddygon sy’n awgrymu sefyllfa beryglus lle mae cleifion yn marw’n rheolaidd wrth aros am lawdriniaethau.

Bu Ann Clwyd yn feirniadol o’r driniaeth gafodd ei diweddar ŵr, Owen Roberts, yn yr ysbyty. Yn ddiweddar, cafodd ei phenodi i wneud arolwg o’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.

Ers iddi wneud safiad ynglŷn â’r gwasanaeth iechyd, mae Ann Clwyd yn dweud ei bod wedi derbyn tua 2,500 o lythyron ac e-byst gan  bobl yn pryderu am driniaeth eu rhieni neu berthnasau – 20% o’r negeseuon o Gymru.

‘Pethau’n ddrwg iawn’

Yn ôl ystadegau mae Ann Clwyd wedi eu darganfod, mae sefyllfa’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn waeth na’r sefyllfa yn Lloegr.

“Gofynnais iddyn nhw gymharu Cymru a Lloegr a’r diagnostics yn y ddwy wlad ac mae Cymru ar ôl Lloegr ymhob un. Mae’n ymddangos bod pethau’n ddrwg iawn.”

Mewn cyfres newydd ar S4C heno mae Ann Clwyd yn awgrymu fod Llywodraeth Cymru yn ymddangos yn anfodlon cyfaddef bod y sefyllfa’n un ddifrifol. “Dwi’m isio beirniadu ond, ar yr un pryd, mae ‘na ddiffygion yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac mae’n rhaid cyfaddef  bod ‘na ddiffygion ac mae’n rhaid eu hwynebu nhw.

“Faswn i ddim wedi siarad allan fel ydw i am hynny oni bai mod i’n gweld bod pobl ddim fel eu bod nhw’n cyfaddef bod problemau yng Nghymru ac eto mae’r llythyrau dwi ‘di gael o dros Gymru i gyd yn ei gwneud hi’n berffaith blaen bod yna broblemau yng Nghymru.”

‘Gwrthod gwrando’

Wrth ymateb i sylwadau Ann Clwyd, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Kirsty Williams bod Llywodraeth Cymru yn “gwrthod wynebu’r ffeithiau” a’u bod yn “anwybyddu ystadegau damniol sy’n dangos pa mor wael yw’r sefyllfa ac yn gwrthod gwrando ar bryderon cleifion.

“Maen nhw’n gwrthod gwrando ar unrhyw un felly efallai ei bod yn bryd iddyn nhw ddechrau gwrando ar wleidyddion o fewn eu plaid eu hunain,” meddai Kirsty Williams.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Wrth ymateb i’r sylwadau, dywedodd  llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Mae’r mwyafrif o bobol yng Nghymru yn derbyn gofal arbennig gan y GIG. Mewn adolygiad diweddar o 14,500 o bobol Cymru , roedd 92% ohonyn nhw’n fodlon gyda’r gofal wnaethon nhw dderbyn yn ysbytai’r GIG.

“Wrth gwrs, pan mae pethau’n mynd o’i le a phan nad yw’r gofal o’r safon ddisgwyliedig, mae’n rhaid i ni drafod beth aeth o’i le er mwyn cael dysgu o hyn.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’n glir y bwriadau sydd o fewn ‘Darparu Gofal Diogel, Gofal Tosturiol’, ac fe gytunodd y Cynulliad â hyn ym mis Gorffennaf.

“Gyda’r mesurau yma mewn lle, nid ydym yn gweld angen am ymchwiliad cyhoeddus.”

Ann  Clwyd  yw gwestai cyntaf y cyflwynydd a’r bargyfreithiwr o Langefni, Gwion Lewis mewn cyfres newydd Siarad o Brofiad, sy’n dechrau heno am 9.30pm ar S4C.