Mark Bridger
Mae carcharor, sydd wedi ei garcharu am oes, wedi cyfaddef ymosod ar Mark Bridger yn y carchar.

Roedd Juvinai Ferreira, 22, wedi pledio’n euog i gyhuddiad o anafu Mark Bridger pan ymddangosodd yn Llys y Goron Leeds drwy gyswllt fideo heddiw.

Ymosododd Ferreira ar Bridger, 47 oed, yng Ngharchar Wakefield  lai na deufis ar ôl iddo gael ei ddedfrydu i garchar am oes am gipio a llofruddio’r ferch bum mlwydd oed, April Jones, ym Machynlleth y llynedd.

Ni chafodd unrhyw fanylion am yr ymosodiad eu cyhoeddi yn y llys a bydd Juvinai Ferreira yn cael ei ddedfrydu ar 2 Hydref.

Yn ôl adroddiadau ar y pryd, bu’n rhaid i Bridger gael triniaeth i’w wyneb yn yr ysbyty ar ôl yr ymosodiad. Fe ddychwelodd i Wakefield ar ôl cael pwythau i’w wyneb.

Cafwyd Ferreira, sy’n dod o Gambia’n wreiddiol, yn euog o lofruddio Elaine Walpole yn Norfolk yn 2008. Cafodd ei garcharu am oes yn Llys y Goron Norwich yn 2009. Dywedodd y barnwr y byddai’n rhaid iddo dreulio o leiaf 22 mlynedd dan glo cyn cael ei ystyried am barôl.