Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i droseddau rhyw mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru wedi arestio dau ddyn ar amheuaeth o achosi creulondeb i blant.
Mae dyn 69 mlwydd oed o Wrecsam wedi ei arestio ar amheuaeth o droseddau o greulondeb i blant yn erbyn chwech o fechgyn. Honnir bod y troseddau wedi digwydd rhwng 1975 and 1981 pan oedd y bechgyn rhwng naw a 14 mlwydd oed.
Mae dyn arall 61 mlwydd oed wedi ei arestio yn Beeston, Swydd Nottingham, ar amheuaeth o greulondeb yn erbyn bachgen. Honnir bod y drosedd wedi digwydd ym 1978, pan oedd y bachgen tua naw oed.
Bydd y ddau ddyn yn cael eu holi gan dditectifs sy’n rhan o Ymgyrch Pallial, ymchwiliad cenedlaethol i honiadau o gam-drin hanesyddol mewn cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru.
Dyma’r nawfed a’r degfed i gael eu harestio fel rhan o Ymchwiliad Pallial a gafodd ei lansio ym mis Tachwedd y llynedd i edrych ar honiadau yn ymwneud â 18 o gartrefi gofal rhwng 1963 ac 1992.
Mae un person wedi cael ei gyhuddo o nifer o droseddau rhyw difrifol.