Huw Lewis
Mae pôl piniwn yn cefnogi barn Llywodraeth Cymru yn erbyn rhoi rhyddid i ysgolion benderfynu ar batrwm gwyliau.

Yn groes i Lywodraeth Prydain yn Lloegr, fe fydd yn parhau i fynnu bod cynghorau sir yn gosod trefn bendant ac yn cydweithio i gael patrwm tebyg ar draws y wlad.

Yn Lloegr, fe ddangosodd arolwg barn newydd fod mwyafrif rhieni’n poeni am y bwriad i roi rhyddid i ysgolion.

Poeni

Roedd 77% o rieni a gafodd eu holi’n poeni y byddai’r rhyddid newydd yn ei gwneud hi’n fwy anodd lle’r oedd plant o’r un teulu  mewn mwy nag un ysgol.

Mae’r newid i fod i ddigwydd yn Lloegr yn 2015 ond mae’r pôl yn dangos hefyd fod rhieni wedi rhannu tros yr adegau gorau i gael gwyliau a pha mor hir y dylai’r rheiny fod.

Roedd y pôl wedi ei drefnu gan ddau fudiad rhieni a phlant, Netmums a 4Children.

Bil newydd yng Nghymru

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai rhoi rhyddid i ysgolion yn ei gwneud hi’n anos i rieni gael rhagor o ofal plant.

Mae’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, yn cyflwyno Bil newydd i’r Cynulliad yn rhoi cyfrifoldeb ar gynghorau sir i gyd-drefnu gwyliau i ysgolion y wladwriaeth trwy Gymru.