Mae dynes 46 oed wedi marw ac mae dyn 49 oed mewn cyflwr difrifol yn dilyn digwyddiad yng Nghasnewydd bore ma.

Cafodd swyddogion arfog o Heddlu Gwent eu galw i Stryd Willenhall am 8.45yb heddiw yn dilyn adroddiadau am sŵn gynnau’n cael eu tanio.

Daeth yr heddlu o hyd i’r dyn a’r ddynes a chafodd y ddau  eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent mewn cyflwr difrifol.

Bu farw’r ddynes yn ddiweddarach prynhawn ma ac mae’r dyn yn parhau mewn cyflwr difrifol.

Credir nad oedd unrhyw un arall yn gysylltiedig â’r digwyddiad ac roedd y ddau yn adnabod ei gilydd, meddai’r heddlu.

Cafwyd hyd i ddryll ar y safle.

Mae’r heddlu’n rhoi cymorth i deuluoedd y ddau. Mae Stryd Willenhall wedi ei chau am y tro tra bod yr heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad.