Thomas Gee
Mae yna ymgyrch wedi dechrau i achub un o adeiladau enwoca’ Cymru a’i throi’n ganolfan i ddathlu’r diwydiant print.

Mae’r Archdderwydd a phrifardd ymhlith y rhai sy’n pwyso am ddod â hen adeilad Gwasg Gee yn Ninbych i ddwylo cyhoeddus.

Un syniad fyddai ei droi’n amgueddfa i’r diwydiant argraffu a phrint – yno y cafodd Y Faner ei sefydlu ac am flynyddoedd, roedd yn fusnes blaengar a llewyrchus.

‘Gwaddol i’r eisteddfod’

Yn ogystal â’r Archdderwydd, Christine James, mae’r bardd a’r argraffwr, Myrddin ap Dafydd, wedi galw am achub yr adeilad.

Fe ddywedodd y gallai fod yn waddol i’r eisteddfod ei adael ar ei hôl yn Ninbych – roedd angen “brics a morter” meddai er mwyn dathlu ein diwylliant … nid dim ond amgueddfa ond rhywle i ddathlu’r diwylliant byw hefyd.

Gwasg Gee oedd canolbwynt symudiad radical a weddnewidiodd Gymru a gosod seiliau’r wlad yn yr ugeinfed ganrif, meddai.

Mae llawer o hen beiriannau yn yr adeilad sydd wedi ei restru gan Cadw ac mae rhai’n deillio o oes y sylfaenydd Thomas Gee, cyhoeddwr y Faner a’r Gwyddoniadur Cymreig.

Yn ddiweddarach, y nofelydd Kate Roberts oedd un o berchnogion y wasg ond fe gaeodd yn 2001. Roedd y wasg wedi bod yno am fwy na dwy ganrif.

Ar un adeg roedd bwriad i droi’r adeilad yn fflatiau.