Aled Sion Davies yng Ngemau Paralympaidd Llundain y llynedd
Ni fydd Aled Sion Davies o Ben-y-bont ar Ogwr yn cael y cyfle i amddiffyn ei fedal aur yn y ddisgen yng Ngemau Paralympaidd Rio de Janeiro yn 2016 yn dilyn newidiadau i restr campau’r gemau.

Enillodd Aled Sion Davies y fedal aur am daflu disgen yng nghategori F42 yn Llundain y llynedd ac mae newydd ennill dwy fedal aur am daflu’r ddisgen a’r siot ym Mhencampwriaethau Pwyllgor Athletau Paralympaidd y Byd yn Lyon.

Ond, dim ond un o’r digwyddiadau hynny sydd bellach ar restr campau’r Gemau Olympaidd  yn Rio.

‘Siomedig’

Dywedodd Aled Sion Davies ar ei gyfrif Twitter: “Rwy’n ofnadwy o siomedig na fyddaf yn gallu amddiffyn fy nheitl.”

Daeth y cyhoeddiad am ba gystadlaethau fydd yn cael eu cynnal yn Rio wedi dwy flynedd o ymgynghoriad eang. Bydd 177 o gystadlaethau yn cael eu cynnal yno –  saith yn fwy na Llundain yn 2012 a chynnydd o 22% yn nifer y cystadlaethau i ferched.

Nod Athletau IPC oedd gweld mwy o sbectrwm o gystadlaethau o fewn y rhaglen ac roedd hynny’n golygu colli rhai yn yr ailstrwythuro.

Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd y IPC y bydd tua 4,350 o athletwyr yn cystadlu mewn 526 o gystadlaethau yn Rio yn 2016.