Joe Ledley
Mae yna ddyfalu y gallai cyn-chwaraewr Caerdydd, Joe Ledley, ddod yn ôl at y clwb ar gyfer eu tymor cynta’ yn yr Uwch Gynghrair.

Dyw’r chwaraewr ei hun ddim wedi gwadu’r honiadau’n llwyr chwaith, trwy ddweud mai dyfalu yw’r cyfan ac nad oes dim swyddogol wedi digwydd eto.

Roedd chwaraewr canol cae Celtic yn ffefryn mawr ym Mharc Ninian a’r disgwyl yw y gallai gostio tua £3 miliwn i’w ddenu’n ôl – mae ar dymor ola’i gytundeb yn Glasgow.

Amheuon am y si

Ond, wrth i’r Daily Mirror sôn yn hyderus am y trosglwyddiad, mae gwasanaeth walesonline yn fwy amheus gan ddweud mai prif darged Caerdydd yw’r chwaraewr Ffrengig Etienne Capoue.

Hyd yn hyn, mae’r ddau glwb wedi gwadu bod Ledley ar ei ffordd yn ôl i dde Cymru ac, yn yr Alban, maen nhw’n amheus a fydd Celtic eisiau colli un arall o’u prif chwaraewyr ar ôl gwerthu dau eisoes.