Mae’r neges i chwaraewyr criced Morgannwg yn glir heno – ennill i fynd trwodd, colli i fynd mas.
Mae’n rhaid i’r sir guro’r tîm o Gaerloyw, Gloucestershire, er mwyn cyrraedd rowndiau wyth ola’r gystadleuaeth ugain pelawd.
Fe fyddai hynny’n golygu talu’r pwyth am golli o ddeg wiced oddi cartre’ yn eu herbyn ac efallai y bydd y bowliwr cyflym, Simon Jones, ar gael am y tro cynta’r tymor yma.
Mae wedi cael ei ychwanegu at y sgwad o 13 o chwaraewyr.
Hyderus
Er eu bod wedi colli pedair o’u pum gêm ddiwetha’ yn y gystadleuaeth, roedd Pennaeth Perfformiad Elît Morgannwg yn hyderus am yr ornest yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd.
“Fe fydd yn gae iawn felly mae yn ein dwylo ni i fynd mas a chwarae fel yr ’yn ni’n mo’yn chwarae,” meddai Matthew Mott.
“Os byddwn ni’n batio a bowlio a maesu cystal ag y gallwn ni, fe fyddwn ni’n gwneud cyfiawnder â’n tîm a dw i’n siŵr y cawn ni’r canlyniad.”
Y cefndir
Roedd Morgannwg wedi ennill eu pedair gêm gynta’ yn y gystadleuaeth cyn y toriad i chwarae gemau pedwar diwrnod.
Ers hynny, dim ond un gêm y maen nhw wedi ei hennill ond mae eu record Ugain20 yn dda yn erbyn Gloucestershire yng Nghaerdydd – maen nhw wedi ennill pump allan o chwech.
Pe bai’r gêm yn cael ei hatal neu’n gyfartal, fe allai’r cyfan ddibynnu ar ganlyniadau eraill a mathemateg gymhleth.