Malky Mackay
Mae rheolwr Caerdydd Malky Mackay wedi cadarnhau ei fod wedi cytuno ar delerau am chwaraewr canol cae Toulouse, Etienne Capoue.

Mae Capoue wedi cael ei gysylltu â’r Uwch Gynghrair ers sbel, ac mae Mackay yn gobeithio y gall ddenu’r chwaraewr 25 oed i’r brifddinas.

‘‘Rydym ni a Toulouse wedi dod i gytundeb.  Rydym wedi cael sgwrs gydag Etienne a’i gynghorwyr, ac maen nhw wedi bod yn broffesiynol am yr hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud,’’ meddai Mackay.

‘‘Rydym wedi bod yn trafod â Toulouse yn gyson ers yr wythnos ddiwethaf, ac mae Toulouse wedi bod yn ardderchog wrth ddelio a’r sefyllfa,’’ ychwanegodd Mackay.