Michael Laudrup
Mae rheolwr Abertawe wedi dweud nad yw’r clwb wedi derbyn unrhyw geisiadau am ei chwaraewyr.

Roedd Arsenal a Lerpwl wedi dangos diddordeb mewn capten y clwb, Ashley Williams, ond mae Michael Laudrup wedi cadarnhau nad yw wedi gorfod cystadlu â chlybiau eraill.

“Gallaf reoli’r hyn rwy’n ei wneud, ond wrth gwrs, ni allaf reoli’r hyn y mae eraill yn ei feddwl.  Rwyf wedi dweud o hyd, os yw chwaraewr am adael clwb am reswm penodol, mae’n anodd iawn i’w cadw,’’ meddai Laudrup.

‘‘Llynedd fe welon ni Joe Allen yn mynd i Lerpwl, Scott Sinclair yn mynd i Manchester City a Danny Graham i Sunderland.  Ni allwch gadw chwaraewyr sydd wedi dewis i adael y clwb,’’ ychwanegodd Laudrup.

O ran sefyllfa’r Elyrch, mae Laudrup wedi cadarnhau ei bod yn chwilio am ymosodwr i ychwanegu at ei garfan.