Mae hofrennydd yr ambiwlans awyr wedi cludo dau i’r ysbyty yn dilyn damwain ffordd ym Mhowys.
Fe ddisgwyddodd y gwrthdrawiad â choeden yn Nant-glas ger Rhaeadr, ac fe fu’n rhaid rhyddhau’r unigolion o’u car.
Mae’r naill wedi ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, a’r llall i Ysbyty Treforys, Abertawe.
Mae trydydd person wedi bod yn derbyn triniaeth yn uned ddamweiniau Llandrindod, Powys, wedi iddo ddiodde’ mân anafiadau.