Huw Lewis
Mae Stonewall Cymru wedi croesawu’r newyddion bod y Gweinidog Addysg, Huw Lewis am fynd i’r afael â bwlio homoffobig mewn ysgolion.

Mae e wedi galw ar awdurdodau lleol i gydweithio gydag ysgolion i fonitro digwyddiadau homoffobig.

Mae ymchwil gan Brifysgol Caergrawnt yn dangos bod mwy na hanner plant hoyw, lesbiaidd neu ddeuryw ym Mhrydain yn cael eu bwlio yn yr ysgol.

Ond fe ddywedon nhw nad yw athrawon yn gwneud digon i atal iaith homoffobig yn y dosbarth.

Mewn llythyr at Aelod Cynulliad De-ddwyrain Cymru, Lindsay Whittle, dywedodd Huw Lewis: “Mae gweithdrefnau cofnodi da nid yn unig yn galluogi ysgolion i nodi pa faterion bwlio sy’n codi’n lleol, ond hefyd yn dangos eu bod nhw’n cymryd camau i herio bwlio a bod mentrau’n effeithiol.

Dywedodd Swyddog Addysg Stonewall Cymru: “Mae monitro yn un cam y gall ysgolion ei gymryd i herio bwlio homoffobig a hoffem weld yr holl awdurdodau lleol yn cefnogi eu hysgolion i herio bwlio homoffobig fel bod pob unigolyn ifanc yn gallu cyrraedd eu potensial llawn.”